Epona, Eisteddfod Genedlaethol Gymru / National Eisteddfod of Wales, 2020

a phe baen ni’n byw fry yn y bryniau / and if we should live up in the hills, 2020

pamffled traethawd gweledol / visual essay pamphlet

cliciwch yma am y fersiwn Gymraeg / click here for English version

Mae Epona yn cynnwys gwaith gan 31 artist sydd i gyd wedi arddangos yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen.

Ym Mehefin 1940 cafodd Mynydd Epynt (cyfeiriad grid SN961464) ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel. Gwasgarwyd y 400 o Gymry a fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch a throi’r ardal yn faes tanio i'r fyddin. Hyd heddiw mae rhannau helaeth o'r bryniau yn dal dan reolaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ac ar gau i'r cyhoedd.

Daw enw Epynt o'r gair Brythoneg epo-s 'ceffyl(au)' - sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd Epona a'r gair Cymraeg ebol - a hynt, a'r ystyr yw 'lle crwydra ceffylau'.

Gan gofio Troad Allan Epynt 80 mlynedd yn ôl, rhoddwyd gwahoddiad i artistiaid i ddychmygu sut fyd yr hoffen nhw ei weld ar ôl i’r haint C-19 basio.

Epona includes work by 31 artists who have all exhibited in Y Lle Celf at the National Eisteddfod of Wales before.

In June 1940 Epynt (grid reference SN961464) was commandeered by the War Office. The 400 people who had been farming the mountain and the seven valleys were dispersed and the area was turned into an army firing range. To this day, in the main the hills continue to be under Ministry of Defence control and are closed to the public.

The name Epynt is derived from the Brythonic word epo-s ‘horse(s) – that also gives us the Celtic goddess’ name Epona – and hynt meaning ‘where horses roam’.

Bearing in mind the Epynt clearances of 80 years ago, artists were invited to imagine what sort of world you would like to see after C-19 has passed.

return to exhibition / arddangosfa / exposición