agweddau at newid gwledig | approaches to rural change - oriel plas glyn y weddw 2pm 15/07/2018

Sgwrs gyda’r artist Morag Colquhoun a Dr Sophie Wynne-Jones, Darlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol yn Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
 
Talk with Morag Colquhoun, artist, and Dr Sophie Wynne-Jones, Lecturer in Human Geography at the School of Environment, Natural Resources and Geography at Bangor University.

lobster flying.jpg

Mae’r arddangosfa Trofannolismo gan Morag Colquhoun ym Mhlas Glyn y Weddw wedi dod â'i hymchwiliadau i bryderon amgylcheddol ynghyd, yn arbennig sut mae natur a dyn yn cyd-fyw.

Morag Colquhoun's exhibition Trofannolismo at Plas Glyn y Weddw has brought together her investigations into environmental concerns, especially looking at how nature and man co-habit.

Mae Dr Sophie Wynne Jones yn ddaearyddydd dynol sy'n gweithio ar newid tirwedd gwledig a llywodraethiant. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys ffermio a datblygiadau polisiau amaethyddol, cysylltiadau dynol-natur â natur a dyfodol y gwledig a’r dirwedd.

Dr Sophie Wynne Jones is a human geographer working on rural landscape change and governance. Her research areas includes farming and agricultural policy developments, human-nature relations with nature and rural and landscape futures.

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Dŵr Cymru/Welsh Water ac Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Supported by the Arts Council of Wales, Dŵr Cymru/Welsh Water and Bardsey Island Trust.